betaMae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (opens in a new window) yn ein helpu i'w wella
Cael eich arweiniad pensiwn
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ddysgu am eich opsiynau ar gyfer cymryd arian o’ch pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio – gan gynnwys pensiynau gweithle a phersonol.
Sut mae'n gweithio
- Atebwch gwestiynau syml am eich cynlluniau ymddeoliad.
- Darllenwch eich opsiynau ar gyfer cymryd eich pensiwn(pensiynau) a phenderfynwch a ydynt yn iawn i chi.
- Cewch restr personol o bethau i'w gwneud o'ch camau nesaf yn seiliedig ar eich atebion.
- Gweler neu lawrlwythwch grynodeb o'ch apwyntiad, gyda gwybodaeth ychwanegol am drethi, cynllunio ar gyfer ymddeoliad, a mwy.
- Os ydych eisiau cymorth, siaradwch ag arbenigwr pensiynau gan ddefnyddio'r gwesgwrs, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
- Arbedwch eich cynnydd a dychwelwch i'r gwasanaeth unrhyw bryd.
Sut i baratoi
Gall fod yn ddefnyddiol gwybod:
- Pa fath(au) o bensiwn sydd gennych chi? Os nad ydych yn gwybod, darganfyddwch eich math o bensiwn (opens in a new window)
- Gwerth eich cronfa(cronfeydd) pensiwn – gwiriwch eich gwaith papur pensiwn neu gofynnwch i'ch darparwr.
- Os yw eich cronfa bensiwn yn cynnwys unrhyw nodweddion arbennig, fel cyfradd blwydd-dal gwarantedig neu werth cronfa gwarantedig – gofynnwch i’ch darparwr os ydych yn ansicr.
Cymorth a chefnogaeth
Os byddai'n well gennych gael eich apwyntiad dros y ffôn, gallwch ei drefnu yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag arbenigwr pensiwn yn ein gwesgwrs.
Oriau
• Dydd Llun - Gwener: 9am i 5pm
• Dydd Sadwrn, Sul a gwyliau banc: Ar gau